1. |
Gwalia
06:07
|
|
||
Gwalia, ti'n clywed y canu?
Gwalia, ti'n gweld y breuddwydion?
Gwalia, sut mae corlanu yr holl negeseuon?
Gymrodorion
Gwalia, ti'n teimlo'r cariad?
Gwalia, ti'n gwybod bod angau
Gwalia, sut mae gwireddu rhwng y pegynau?
Gymrodorion
Wedi'r holl waith yn rybela'r deunydd crai
Rhaid codi unwaith eto cyn troi’n glai - Gwalia
Gwalia, dy fynydd dy fawnog
Gwalia, dy fôr a dy fobl
Gwalia, mor anobeithiol ond eto'n hollol anhygoel
Gymrodorion
Gwalia, aberthwn yr ofnau
Gwalia, buddsoddwn obeithion
Gwalia - Gymrodorion
|
||||
2. |
Chwyldro bach dy hun
03:46
|
|
||
Pawb ai chwyldro bach
Chwyldro bach ei hun
Ti yn y gwtar yn mocha efo’r llygod mawr
Uwch dy ben pelydrau yn sgleinio drwy y draeniau
Ti’n cofio’r gosfa? Gloyn byw dy fol?
Dos efo fo, hed efo fo, chwala yr holl stigma
Ti ar y pafin, yn cico sodla gneud dim byd
Beio’r byd am bopeth, llyncu clebar clecs
Ti cofio’r zero oeddet ti’n boeni amdano?
Dos yn ôl, yn ôl i ddim, chwala yr holl gomplecs
Ti ar y grisiau fel Balboa’n Philedelphia
Chwys ar dy hwdi llwyd a’r gwynt yn dy ddyrnau
Ti’n cofio’r ysfa wedi gwylio’r ffilm?
Mynega fo, gwiredda fo, chwala’r walia!
Ti ar y copa, yn ei weld o gyd o danat
Dy enaid pridd a’th ben o sêr yn troi a throi o hyd
Ti’n cofio’r fflach, cyn i ti greu dy gampwaith?
Cyna fo a’i gynnal o, gwasgara dy lwch hud
|
||||
3. |
Ewrop
05:19
|
|
||
Athroniaeth barf a thoga
Duwiau ymhobman
Awditoriwm yr amserau’n ffurfio tonnau bach o’r lan
Dros foroedd, lawr afonydd
Fel cenhedlau’r oes o’r blaen
Creiriau dros yr alpau, holl drysorau tlws y maen
Un tro, un tro yn Ewrop
Croes am wddw’r pagan
Wedi brwydro integreiddio
Rhamant ar y lonydd, arloesi methu peidio
Pensaerniaeth ymerodordol
Yn olygfa o’r dwr bâs
Rwan mond adfeilion dan fôr o awyr las
Un tro, un tro yn Ewrop
Fel y dderwen hynaf ‘da ni yma o hyd, yn sefyll o hyd yn Ewrop
Chwedlau, celfyddydau
Yn diwygio dros y lle
Y freintiedig yn teyrnasu, dwyn y werin, dwyn y dre
Wedi gormes gwelwn greithiau
Wedi creithiau clywn y gân
A’r teimlad yn diffinio diwylliannau mawr a man
Un tro, un tro yn Ewrop.
Fel y Mabinogi, ‘da ni yma o hyd, yn ei adrodd o hyd yn Ewrop
Tesla yn trydanu
Tanio gwreichion dros bobman
Moderniaeth, gwyddoniaeth o’r Amerig i Japan
Wedi rhyfel, trafodaethau
Heddwch am ba bryd?
“Mae’r waliau wedi chwalu, gobaith ddaw i’r byd!”
Un tro yn Ewrop
Fel Cader Faner, ‘da ni yma o hyd, yn gylchoedd i gyd, yn Ewrop
Yng ngwe yn holl rwydweithio
Tryloyw ydy’r llen
Ac o awditoriwm heddiw cydiwn yn yr awen
Cyfandir coeth anhygoel
Duwies cyfoes fyd
Cyfiawnder i dy fobl yn nyfnder oes mor ddrud
Rhyw ddydd, rhyw ddydd yn Ewrop.
Fel y tywod euraidd, ‘da ni yma o hyd, ar y ffîn o hyd, yn Ewrop
Fel sêr galaethau, ‘da ni yma o hyd, ar y daith o hyd, yn Ewrop.
|
||||
4. |
Sbwng
04:17
|
|
||
Cloddiwch yr aur
Tyllwch y glo
Holltwch y llechi
Toi'r byd a'r fro
Er bo ni'n mochel
Yn gynnes a chlyd
Mae rywyn yn y palas
Yn sbynjo hi o hyd
Sbwng, sbwng, sbwng
Llawn tylla, gwlyb a thrwm
Sbwng, sbwng, sbwng
Gallwn wasgu os y mynnwn
Bachwch y tiroedd
Ei natur a'i hud
Allforiwch y coedydd
Fel caethweision mud
…ac er bod llwythau
Yn diflannu pob dydd
Mae'r corfforaethau yn gneud ni deimlo'n rhydd
Sbwng, sbwng, sbwng…
Talwch y trethi
Llafuriwch yn rhad
Gwerthwch eich enaid
Er mwyn eich parhad
Yndi, mae llenwi rhai boliau yn straen
Ond Lordio mae'r crachach
A'u bancwets champaen
Sbwng, sbwng, sbwng…
|
||||
5. |
Brethyn
03:35
|
|
||
Dyma fy narn bach i o'r byd
Dyma fy lle, dyma fy lle
Ble bynnag yr wyf
Ble bynnag yr af
Brethyn
O loeren fry, mi welai
Y glas a'r gwyrdd, gwyrdd a glas
Troi a throi
Rownd a rownd
Brethyn
Yr holl grefyddau
Yr holl gelwyddau - Brethyn
Yr holl wybodaeth
Yr holl dystiolaeth - Brethyn
Dyma fy iaith a nghymrodorion
Dyma ni, dyma ni
Ble bynnag yr ym
Ble bynnag yr awn
Brethyn
Yn y rhyngrwyd, pysgod-ddyn
Powlen wydr budr bowld
Troi a throi
Rownd a rownd
Brethyn
Yr holl gredöa
Yr holl propoganda - Brethyn
Yr holl gyfathrebu
Pam di rai jest methu - Brethyn
Perthyn
|
||||
6. |
Normal
03:32
|
|
||
Os ti’n gwisgo petha hurt
Ac yn meddwl petha nyts
Ti goro bod yn od yn y brên
Os gen ti farn mwy
Tu hwnt i'r blwch bach
Ti'm yn ffitio ar y tren
Ond os gen ti batrwm del
Papur wal cymdeithas
Rho'r pâst yn chwistrell
A'i bwmpio fo mewn - i deimlo’n…
Normal, normal
Sdim angen i ni boeni
Gadwch iddyn nhw reoli!
Normal, normal
Teimlo'n rhydd wrth wario mwy
Methu'r pwynt tra'n llyncu’r llwy!
…ac os wti’n troelli
Yn y pethe Cymraeg
Ti siwr o fod yn hen ffash
…ac os wti’n gefnogol
O Gymdeithas yr Iaith
Ti cal dy baentio efo brwsh Welsh Nash
Os ti’n derbyn popeth
Sydd yn yr un hen newyddion
Rho’r wifren yn dy fraich
A’i beipio fo mewn – i deimlo’n
Normal….
|
||||
7. |
Costa del Jeriatrica
03:34
|
|
||
Mae rhywyn wedi gadael y kipars i mewn
Drewi, mae o’n drewi
A’u sglein piws a melyn wedi mygu i gyd
Tagu, wyt ti’n tagu?
…ond mae’r tonnau wedi tywallt trwy’r drws i’w cynnal nhw
A Seithennyn mewn bad achub yn llwch, yn chwifio arnyn nhw
Braf, o mor braf ar y Costa del Jeriatrica
Ymbarel a piña colada… a’r coch, gwyn a glas fel swastica
Braf, o mor braf ar y Costa del Jeriatrica
Ffwl pelt ar y siarabang-abl i’r heulwen haf
Pwy sy di gadael y kipars mewn?
Cymru? Oes ‘na Gymry?
Nath eu esgyrn brau gosi’ch gwddw
A’ch denu chi i ryw ffantasi?
Ond mae’r tonnau wedi tywallt trwy’r drws
I’w cynnal nhw
A Jonah yn y bol, yn y tywyllwch
Yn gweddio dan y dwr
Braf…
|
||||
8. |
Yr Hwyliau
05:36
|
|
||
Llwybrau'n lluosi
Canghennau'n cynyddu
…ond disgyn mae'r disgybl bach oddi arni
Hen deimlad anniddig
Gorthrwm anweledig
Mae rhywyn yn rhywle a gwaed ar eu menyg
Yma yr ydym
Yn y bwlch mewn brethyn
…ac yn gweld o bell, gatiau bregus Seithennyn
A’i feistr heb wae
Mewn hen sioe bypedau
Pwy bia’r dwylo sy’n rheoli’r llinynnau?
Coda, Sefa, Mynna, Hawlia
Daear, Tanau, Gwyntoedd, Tonnau
Er y gwaetha, ac er gorau,
Coda, sefa, addasa’r hwyliau
Newid anochel
Wrth droi ar ein hechel
Natur y cosmos a’i ryfeddod a’i ddirgel
Tra ‘da ni yma
Wedi clymu mewn raffau
Cofiwch, tydi capten ddim byd heb ei rwyfau
Hwylia!
|
||||
9. |
Tafod
03:48
|
|
||
Synau, sillau,
Llythrennau, geiriau
Cariadus, peryglus, gwybodus, hudolus
Llyfu, glychu
Cusanu, blasu
Yw e’n flasus, yn felys, yn hoffus, ti'n farus?
Tafod
Defnyddia dy dafod
Rhegi, poeri
Mynegi, gweiddi
Yn hollol, angerddol, perthnasol, hanfodol
Mwydro, Minglo,
Dy lingo…
Siarada, gwasgara, cysyllta, defnyddia
|
||||
10. |
Baled i'r bôrd
02:45
|
|
||
Byddwch yn bôrd, byddwch yn bôrd
Mi ddaw yr eureka i freuddwyd y dydd
S’dim byd yn bod efo bod y bôrd
Gadewch i’r awenydd wireddu eich byd
Syllu a syllu drwy’r ffenest
Ar y deiliach, y ffordd mae’r awel yn eu cosi
Dant y Llew - un yn haul, llall yn leuad
A’i hadau yn ffrwydro fel y sêr yn dy ben
Byddwch yn bôrd….
Sbio a sbio ar y mynydd
Mor urddasol, y ffordd mae’n cyferbynu’r awyr
Cigfran yn hofran am ei sglyfaeth
O le ddaeth y saeth i’r bwa, r’hen ffrind?
Byddwch yn bôrd…
Oes raid i ti gael dy ddiddanu
Pob un eiliad, pob munud, pob awr, pod dydd
Pob wythnos, pob mis, pob blwyddyn o dy fywyd?!
Byddwch yn bôrd, byddwch yn bôrd
Mi ddaw yr eureka i freuddwyd y dydd
Sdim byd yn bod efo bod y bôrd
Gadewch i’r awenydd wireddu eich byd
Byddwch yn bôrd, byddwch yn bôrd
Mi ddaw yr eureka i freuddwyd y dydd
Byddwch yn bôrd, cofleidiwch bordym
Cos gall gormod o adloniant dy droi di’n ....!
|
||||
11. |
Peiriant
04:13
|
|
||
Tai ha, iaith, economi
Llawr gwlad yn cael ei dynnu o dana ni
Gwyliwch y peiriant
Pawb a'i farn ond hanner sy’n fotio
Opera sebon yn lle achub bro?
Gwyliwch y peiriant
Da chi'n clywed y tic?
Clywed y toc?
Amser, ‘di o'm yn aros i neb
Aberth, apathi, gobaith, ofni
Enaid, tir, mor ysbrydol
…a dy GPS yn dy boced ôl
Gwyliwch y peiriant
Tabloid android
Wyt ti wironeddol gwybod ble ti’n rhoi dy droed?
Gwyliwch y peiriant
Da chi'n clywed y tic?
Clywed y toc?
Amser, wneith o'm aros i neb
Aberth, apathi, gobaith, ofni
|
||||
12. |
Hau / Chwyldro mawr pawb
04:55
|
|
||
Llaw i fyny pwy s’gan chwyldro bach
Dwylo fyny, derwydd neu wrâch
Yn y fflamau gwelwn yfory
Yn y tân, ein tynged ni
Tyrd a rywbeth at y grochen
Dewch a’r pethe nôl i’r Llan
Yn y sêr hen syniadau
Yn y wawr mi awn ni hau
Hau, hau…
O arad ddoe i heddiw’n llafur
O gaeau aur i’r anial dir
O lygaid deryn er lliwiau’n plu
Gollyngwn hadau nid arfau du
Hau, hau…
|
Recordiau Sbensh UK
Micro Record Label / Studio / Productions.
Est. 2008 by singer-songwriter Gai Toms. Based in Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, CYMRU / WALES.
Streaming and Download help
If you like GWALIA, you may also like: