We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

GWALIA

by Gai Toms

/
  • Compact Disc (CD) + Digital Album

    1. Gwalia
    2. Chwyldro bach dy hun
    3. Ewrop
    4. Sbwng
    5. Brethyn
    6. Normal
    7. Costa del Jeriatrica
    8. Yr Hwyliau
    9. Tafod
    10. Baled y bord
    11. Peiriant
    12. Hau / Chwyldro mawr pawb

    CD a llyfryn gyda geiriau mewn câs cerdyn gatefold. Ffotograffwaith gan Alwyn Jones.

    Cd and lyric booklet in a gatefold card case. Photography by Alwyn Jones.

    Includes unlimited streaming of GWALIA via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    ... more
    ships out within 2 days
    Purchasable with gift card

      £10 GBP or more 

     

  • Record/Vinyl + Digital Album

    12" @ 33 1/3 rpm. Black vinyl.
    Clawr gatefold a llyfryn geiriau gyda lluniau gan Alwyn Jones // Gatefold cover with lyrics booklet, photos by Alwyn Jones.

    Includes unlimited streaming of GWALIA via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    ships out within 2 days
    edition of 100 
    Purchasable with gift card

      £15 GBP or more 

     

1.
Gwalia 06:07
Gwalia, ti'n clywed y canu? Gwalia, ti'n gweld y breuddwydion? Gwalia, sut mae corlanu yr holl negeseuon? Gymrodorion Gwalia, ti'n teimlo'r cariad? Gwalia, ti'n gwybod bod angau Gwalia, sut mae gwireddu rhwng y pegynau? Gymrodorion Wedi'r holl waith yn rybela'r deunydd crai Rhaid codi unwaith eto cyn troi’n glai - Gwalia Gwalia, dy fynydd dy fawnog Gwalia, dy fôr a dy fobl Gwalia, mor anobeithiol ond eto'n hollol anhygoel Gymrodorion Gwalia, aberthwn yr ofnau Gwalia, buddsoddwn obeithion Gwalia - Gymrodorion
2.
Pawb ai chwyldro bach Chwyldro bach ei hun Ti yn y gwtar yn mocha efo’r llygod mawr Uwch dy ben pelydrau yn sgleinio drwy y draeniau Ti’n cofio’r gosfa? Gloyn byw dy fol? Dos efo fo, hed efo fo, chwala yr holl stigma Ti ar y pafin, yn cico sodla gneud dim byd Beio’r byd am bopeth, llyncu clebar clecs Ti cofio’r zero oeddet ti’n boeni amdano? Dos yn ôl, yn ôl i ddim, chwala yr holl gomplecs Ti ar y grisiau fel Balboa’n Philedelphia Chwys ar dy hwdi llwyd a’r gwynt yn dy ddyrnau Ti’n cofio’r ysfa wedi gwylio’r ffilm? Mynega fo, gwiredda fo, chwala’r walia! Ti ar y copa, yn ei weld o gyd o danat Dy enaid pridd a’th ben o sêr yn troi a throi o hyd Ti’n cofio’r fflach, cyn i ti greu dy gampwaith? Cyna fo a’i gynnal o, gwasgara dy lwch hud
3.
Ewrop 05:19
Athroniaeth barf a thoga Duwiau ymhobman Awditoriwm yr amserau’n ffurfio tonnau bach o’r lan Dros foroedd, lawr afonydd Fel cenhedlau’r oes o’r blaen Creiriau dros yr alpau, holl drysorau tlws y maen Un tro, un tro yn Ewrop Croes am wddw’r pagan Wedi brwydro integreiddio Rhamant ar y lonydd, arloesi methu peidio Pensaerniaeth ymerodordol Yn olygfa o’r dwr bâs Rwan mond adfeilion dan fôr o awyr las Un tro, un tro yn Ewrop Fel y dderwen hynaf ‘da ni yma o hyd, yn sefyll o hyd yn Ewrop Chwedlau, celfyddydau Yn diwygio dros y lle Y freintiedig yn teyrnasu, dwyn y werin, dwyn y dre Wedi gormes gwelwn greithiau Wedi creithiau clywn y gân A’r teimlad yn diffinio diwylliannau mawr a man Un tro, un tro yn Ewrop. Fel y Mabinogi, ‘da ni yma o hyd, yn ei adrodd o hyd yn Ewrop Tesla yn trydanu Tanio gwreichion dros bobman Moderniaeth, gwyddoniaeth o’r Amerig i Japan Wedi rhyfel, trafodaethau Heddwch am ba bryd? “Mae’r waliau wedi chwalu, gobaith ddaw i’r byd!” Un tro yn Ewrop Fel Cader Faner, ‘da ni yma o hyd, yn gylchoedd i gyd, yn Ewrop Yng ngwe yn holl rwydweithio Tryloyw ydy’r llen Ac o awditoriwm heddiw cydiwn yn yr awen Cyfandir coeth anhygoel Duwies cyfoes fyd Cyfiawnder i dy fobl yn nyfnder oes mor ddrud Rhyw ddydd, rhyw ddydd yn Ewrop. Fel y tywod euraidd, ‘da ni yma o hyd, ar y ffîn o hyd, yn Ewrop Fel sêr galaethau, ‘da ni yma o hyd, ar y daith o hyd, yn Ewrop.
4.
Sbwng 04:17
Cloddiwch yr aur Tyllwch y glo Holltwch y llechi Toi'r byd a'r fro Er bo ni'n mochel Yn gynnes a chlyd Mae rywyn yn y palas Yn sbynjo hi o hyd Sbwng, sbwng, sbwng Llawn tylla, gwlyb a thrwm Sbwng, sbwng, sbwng Gallwn wasgu os y mynnwn Bachwch y tiroedd Ei natur a'i hud Allforiwch y coedydd Fel caethweision mud …ac er bod llwythau Yn diflannu pob dydd Mae'r corfforaethau yn gneud ni deimlo'n rhydd Sbwng, sbwng, sbwng… Talwch y trethi Llafuriwch yn rhad Gwerthwch eich enaid Er mwyn eich parhad Yndi, mae llenwi rhai boliau yn straen Ond Lordio mae'r crachach A'u bancwets champaen Sbwng, sbwng, sbwng…
5.
Brethyn 03:35
Dyma fy narn bach i o'r byd Dyma fy lle, dyma fy lle Ble bynnag yr wyf Ble bynnag yr af Brethyn O loeren fry, mi welai Y glas a'r gwyrdd, gwyrdd a glas Troi a throi Rownd a rownd Brethyn Yr holl grefyddau Yr holl gelwyddau - Brethyn Yr holl wybodaeth Yr holl dystiolaeth - Brethyn Dyma fy iaith a nghymrodorion Dyma ni, dyma ni Ble bynnag yr ym Ble bynnag yr awn Brethyn Yn y rhyngrwyd, pysgod-ddyn Powlen wydr budr bowld Troi a throi Rownd a rownd Brethyn Yr holl gredöa Yr holl propoganda - Brethyn Yr holl gyfathrebu Pam di rai jest methu - Brethyn Perthyn
6.
Normal 03:32
Os ti’n gwisgo petha hurt Ac yn meddwl petha nyts Ti goro bod yn od yn y brên Os gen ti farn mwy Tu hwnt i'r blwch bach Ti'm yn ffitio ar y tren Ond os gen ti batrwm del Papur wal cymdeithas Rho'r pâst yn chwistrell A'i bwmpio fo mewn - i deimlo’n… Normal, normal Sdim angen i ni boeni Gadwch iddyn nhw reoli! Normal, normal Teimlo'n rhydd wrth wario mwy Methu'r pwynt tra'n llyncu’r llwy! …ac os wti’n troelli Yn y pethe Cymraeg Ti siwr o fod yn hen ffash …ac os wti’n gefnogol O Gymdeithas yr Iaith Ti cal dy baentio efo brwsh Welsh Nash Os ti’n derbyn popeth Sydd yn yr un hen newyddion Rho’r wifren yn dy fraich A’i beipio fo mewn – i deimlo’n Normal….
7.
Mae rhywyn wedi gadael y kipars i mewn Drewi, mae o’n drewi A’u sglein piws a melyn wedi mygu i gyd Tagu, wyt ti’n tagu? …ond mae’r tonnau wedi tywallt trwy’r drws i’w cynnal nhw A Seithennyn mewn bad achub yn llwch, yn chwifio arnyn nhw Braf, o mor braf ar y Costa del Jeriatrica Ymbarel a piña colada… a’r coch, gwyn a glas fel swastica Braf, o mor braf ar y Costa del Jeriatrica Ffwl pelt ar y siarabang-abl i’r heulwen haf Pwy sy di gadael y kipars mewn? Cymru? Oes ‘na Gymry? Nath eu esgyrn brau gosi’ch gwddw A’ch denu chi i ryw ffantasi? Ond mae’r tonnau wedi tywallt trwy’r drws I’w cynnal nhw A Jonah yn y bol, yn y tywyllwch Yn gweddio dan y dwr Braf…
8.
Yr Hwyliau 05:36
Llwybrau'n lluosi Canghennau'n cynyddu …ond disgyn mae'r disgybl bach oddi arni Hen deimlad anniddig Gorthrwm anweledig Mae rhywyn yn rhywle a gwaed ar eu menyg Yma yr ydym Yn y bwlch mewn brethyn …ac yn gweld o bell, gatiau bregus Seithennyn A’i feistr heb wae Mewn hen sioe bypedau Pwy bia’r dwylo sy’n rheoli’r llinynnau? Coda, Sefa, Mynna, Hawlia Daear, Tanau, Gwyntoedd, Tonnau Er y gwaetha, ac er gorau, Coda, sefa, addasa’r hwyliau Newid anochel Wrth droi ar ein hechel Natur y cosmos a’i ryfeddod a’i ddirgel Tra ‘da ni yma Wedi clymu mewn raffau Cofiwch, tydi capten ddim byd heb ei rwyfau Hwylia!
9.
Tafod 03:48
Synau, sillau, Llythrennau, geiriau Cariadus, peryglus, gwybodus, hudolus Llyfu, glychu Cusanu, blasu Yw e’n flasus, yn felys, yn hoffus, ti'n farus? Tafod Defnyddia dy dafod Rhegi, poeri Mynegi, gweiddi Yn hollol, angerddol, perthnasol, hanfodol Mwydro, Minglo, Dy lingo… Siarada, gwasgara, cysyllta, defnyddia
10.
Byddwch yn bôrd, byddwch yn bôrd Mi ddaw yr eureka i freuddwyd y dydd S’dim byd yn bod efo bod y bôrd Gadewch i’r awenydd wireddu eich byd Syllu a syllu drwy’r ffenest Ar y deiliach, y ffordd mae’r awel yn eu cosi Dant y Llew - un yn haul, llall yn leuad A’i hadau yn ffrwydro fel y sêr yn dy ben Byddwch yn bôrd…. Sbio a sbio ar y mynydd Mor urddasol, y ffordd mae’n cyferbynu’r awyr Cigfran yn hofran am ei sglyfaeth O le ddaeth y saeth i’r bwa, r’hen ffrind? Byddwch yn bôrd… Oes raid i ti gael dy ddiddanu Pob un eiliad, pob munud, pob awr, pod dydd Pob wythnos, pob mis, pob blwyddyn o dy fywyd?! Byddwch yn bôrd, byddwch yn bôrd Mi ddaw yr eureka i freuddwyd y dydd Sdim byd yn bod efo bod y bôrd Gadewch i’r awenydd wireddu eich byd Byddwch yn bôrd, byddwch yn bôrd Mi ddaw yr eureka i freuddwyd y dydd Byddwch yn bôrd, cofleidiwch bordym Cos gall gormod o adloniant dy droi di’n ....!
11.
Peiriant 04:13
Tai ha, iaith, economi Llawr gwlad yn cael ei dynnu o dana ni Gwyliwch y peiriant Pawb a'i farn ond hanner sy’n fotio Opera sebon yn lle achub bro? Gwyliwch y peiriant Da chi'n clywed y tic? Clywed y toc? Amser, ‘di o'm yn aros i neb Aberth, apathi, gobaith, ofni Enaid, tir, mor ysbrydol …a dy GPS yn dy boced ôl Gwyliwch y peiriant Tabloid android Wyt ti wironeddol gwybod ble ti’n rhoi dy droed? Gwyliwch y peiriant Da chi'n clywed y tic? Clywed y toc? Amser, wneith o'm aros i neb Aberth, apathi, gobaith, ofni
12.
Llaw i fyny pwy s’gan chwyldro bach Dwylo fyny, derwydd neu wrâch Yn y fflamau gwelwn yfory Yn y tân, ein tynged ni Tyrd a rywbeth at y grochen Dewch a’r pethe nôl i’r Llan Yn y sêr hen syniadau Yn y wawr mi awn ni hau Hau, hau… O arad ddoe i heddiw’n llafur O gaeau aur i’r anial dir O lygaid deryn er lliwiau’n plu Gollyngwn hadau nid arfau du Hau, hau…

about

"Prin bod albymau mor amserol â 'Gwalia' yn bodoli. Yn gwrando, ti'n cael dy sodro ar glogwyn. Tu ôl i ti, mae chwa adleisiau'r gorffennol yn gwthio. O dy flaen, mae'r chwyldro sionc yn dy ddenu di gerfydd dy glust. O, Gymru, Gwalia, gwranda." Llinos Griffin / Gwefus.

"Gwalia sparks with a fierce creative energy; it is nothing short of brilliant." From the Margins.
www.fromthemargins.co.uk/pages/reviews_all/Gai_Toms_Gwalia.html

credits

released July 21, 2017

Cynhyrchydd / Producer : Gai Toms
Mix / Master : Geriant Jones

license

all rights reserved

tags

about

Recordiau Sbensh UK

Micro Record Label / Studio / Productions.
Est. 2008 by singer-songwriter Gai Toms. Based in Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, CYMRU / WALES.

contact / help

Contact Recordiau Sbensh

Streaming and
Download help

Redeem code

Report this album or account

If you like GWALIA, you may also like: